16/10/2026
📣🍂 DIWRNOD MARCHNAD YFORY! 🍂📣
Pythefnos arall wedi hedfan heibio, ac mae Marchnad Ffermwyr Aberystwyth yn ôl yfory! 🧺🥕🧀
Dewch tu allan i Neuadd Marchnad y Dref rhwng 9yb a 1yp i fwynhau’r gorau o gynnyrch lleol ffres, bwyd blasus o safon a chrefftau unigryw gan ein cynhyrchwyr a’n crefftwyr lleol. 💚
🛍️ Cefnogwch fusnesau lleol
🥖 Darganfyddwch gynnyrch tymhorol gwych
🎨 Dewch o hyd i rywbeth arbennig
Dewch draw i ddweud helo – edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno! 🥰